Cynnyrch ag anrhegion welsh weatherman
Ar ôl cyflwyno’r tywydd ar deledu am bron i 30 blynedd roedd hi’n anochel braidd y buasai na ystod o gynnyrch ag anrhegion, wedi ei seilio ar y tywydd. Mae’r ystod, sy’n cynnwys mygiau, posteri, crysau-t ac ymbaréls, yn boblogaidd iawn nid yn unig yng Nghymru ond dros Brydain a thu hwnt! Yr ychwanegiad diweddaraf i’r ystod yw sanau, wedi eu cynllunio gen i a’u gwneud â llaw yma yng Nghymru gan gwmni enwog Corgi. Es ati i ddylunio’r sanau, gyda 5 fath o dywydd, i ddynion ac i fenywod. Mae PAWB yn caru sanau wrth gwrs ac mae sanau Welsh Weatherman / Chris Tywydd yn anrhegion perffaith ar gyfer unrhyw achlysur, pen-blwydd ac wrth gwrs, Nadolig! Ar gael yn nifer o siopau amrywiol dros y wlad neu ewch ati i archebu eich sanau chi yn syth gen i (e-bostiwch fi unrhyw bryd).