‘’Tynna dy hun at ‘i gilydd!’’
Tynna dy hun at ‘i gilydd. Paid â bod mor wirion. Ti mor anniolchgar. Gwena!
Swnio’n gyfarwydd i rai ohonoch chi? Geiriau eich teulu, ffrindiau, cyd-weithwyr neu gyfoedion efallai? Ymdrechion i helpu, i uniaethu, i roi cymorth, i fod yn gefn? Wrth gwrs. Ond yn y bôn, ydy clywed y fath yma o ‘gyngor’ yn help? A wnewch chi wenu? A wnewch chi dynnu eich hun at eich gilydd?
Ydw i’n dioddef o iechyd meddwl? Iselder? Diffyg hwyl dda. Cymylau uwch fy mhen? Pwysau’r byd ar fy ysgwyddau? Gormes y ci du? Be bynnag yw eich hoff derm. Am y tro cyntaf, dwi’n dal fy llaw i fyny yn gyhoeddus ac yn dweud, ydw. Ydw.
Yn anffodus, dwi di bod yn berson gwydr hanner gwag erioed dwi’n meddwl. Byth cant y cant yn hapus. Byth yn meddwl mod i’n ddigon da. Yn ansicr o fy ngallu ac yn gwrthod derbyn unrhyw eiriau caredig gan neb am fy ngallu, fy ngwaith a fy ngyrfa. Yn disgwyl tap ar fy ysgwydd unrhyw bryd, a llais bach yn sibrwd ‘’Ah ha, i ni wedi dy ddal di! Busted!’’
Felly beth ar y ddaear sydd wrth wraidd y teimladau yma? Y diffyg hunan barch a hunan hyder? Duw a ŵyr!
Mae gen i deulu cariadus, dwi’n byw mewn lle arbennig ger y môr, dwi di cael y cyfle i deithio’r byd gyda fy ngwaith dros y blynyddoedd a dwi di bod yn lwcus iawn i weithio gyda phobl ysbrydoledig, arbennig a dylanwadol. Yn anffodus, o fewn y cyfryngau, neu yn sicr yng Nghymru o leiaf, mae ansicrwydd, y pryder o beidio fod yn ddigon da, y frwydr yn erbyn hunan werth a’r gofid o gael eich ‘’gollwng’’, yn fyth bresennol a dwi di bod yn byw gyda’r ffactorau yma ers i ddechrau gweithio yn y cyfryngau nol yn 1987. Dwi’n siŵr fod ‘na nifer yn yr un cwch.
Roedd 2020, beth bynnag, mewn mwy nag un ffordd, yn flwyddyn anodd a hunllefus. Ar ôl cael diagnosis o gyfnod cynnar cancr y brostad yn 2019, roedd pwysau’r gofidion, y profion a’r scans rheolaidd yn dechrau gwasgu. Ac yna, ar ôl bron i 30 mlynedd yn cyflwyno’r tywydd ar S4C fe nes i golli’r swydd honno. Ai ddim mewn i’r rhesymau sut na pham; fysai hynny’n rhy hawdd, ond o ganlyniad i’r holl ‘broses’, nes i deimlo’n jôc, yn ‘fraud’, yn hollol ddi-werth ac yn gwbl ddihyder. Ers y cyfnod hwnnw, a finnau weithiau’n deffro yn chwys ac yn crio fel babi, dwi di cael cyfnodau anghredadwy o ‘imposter syndrome’, a chasgliad amrywiol o emosiynau. Hunan dosturi, dicter, embaras, anghrediniedd, tristwch, caledrwydd a chasineb tuag at unigolion a sefydliadau, ac, os dwi’n gwbl onest fan hyn, teimladau ag emosiynau….. ‘tywyll’. Phew, odd rhoi hwnna ar bapur yn gam mawr choeliwch chi fi.
Felly be ddigwyddodd? A be dwi di bod yn neud i drio derbyn y sefyllfa? Ddim 100%, ond o leiaf yn ddigon i gario mlaen, i beidio rhoi’r ffidil yn y tô mewn pob ffordd, ac i fod yn ‘’ddiolchgar’’ am be sy gen i?
Y trigyr cyntaf oedd hyn. Wrth gerdded gyda’r ci, nes i ddod ar draws menyw, tua fy oedran i, oedd ar fîn neidio oddi ar y clogwyn, yn agos i le dwi’n byw. Ar ôl treulio 45 munud yn ei chwmni hi, yn sefyll rhyngddi hi a’r clogwyn, yn siarad ac yn gwrando ar ei stori a’i hunllef bersonol, fe ddaeth hi i ffwrdd o’r clogwyn a nôl i’w char. Fe wnaeth hwnnw adael argraff fawr arna i. Roedd clywed stori ei bywyd hi a’i sefyllfa hi mewn priodas anhapus a threisiol, yn dorcalonnus ac yn afiach. Er, ar yr un pryd, fel gwnaeth hi droi allan, roedd e hefyd yn epiffani.
Ar ôl ffarwelio â hi yn ei char, a hithau’n gaddo ffonio sefydliad arbenigol i’w helpu, ac ar ôl cerdded i’r pyb gyda’r ci, roedd fy llaw yn crynu, ac na, wnaeth y Guinness ddim cyffwrdd â’r ochrau fel petai. Yna, wrth eistedd manna, yn sydyn iawn, fe nes i sylweddoli fod fy sefyllfa bersonol i, a fy mhryderon a fy nheimladau i o anghyfiawnder a dicter a hunan dosturi, dipyn yn llai na’r ddynes druan ar y clogwyn. Roedd hi’n barod i anghofio am bopeth, roedd hi wedi cael llond bol o gael ei churo ac yn methu gweld unrhyw fodd o gario mlaen. A doeddwn i ddim wedi cyrraedd y man hwnnw. Roedd fy mywyd i a fy nyfodol i yn edrych tipyn yn fwy ffafriol a phositif. Epiffani go iawn!
Ac ar ôl yr ail Guinness, a’r cryndod yn fy llaw ar ben, yn rhyfedd iawn, fe wnes i ‘’dynnu fy hun at i gilydd’’. Nes i roi ‘’cic go iawn i fyny fy mhenôl’’! Ydy, mae hynny yn gallu gweithio os mai chi sy’n gwneud y cicio, ac os mai chi sy’n siarad efo’ch hun. Weithiau.
Ac felly o ganlyniad i hyn oll, dwi hefyd wedi dechrau cymeryd camau. Dwi di dechrau siarad. Siarad yw un o’r pethau gorau i’w wneud. Rhannu, yn onest ac yn agored, ac yn araf bach, yn dechrau gweld, yn dechrau derbyn fy sefyllfa o ran gwaith, gyrfa, emosiwn, pryderon a’r dyfodol ac ail ddarganfod briwsion o hunan barch a hunan werth. Dwi bron yn 57 oed ac yn debygol o weld y cancr yn gwaethygu yn y dyfodol, a sgen i ddim amser i deimlo’n ddug, i gasáu unigolion nag i fod yn negatif. Os oes un darn o gyngor y gallai roi i unrhyw un sy’n dioddef o iselder neu ryw fath o salwch meddwl, siarad yw hynny. Yn enwedig chi ddynion. Boed hynny’n siarad â’ch gwraig neu bartner, siarad â ffrindiau ( a choeliwch chi fi, fe wnewch chi ffeindio allan yn syth pwy yw’ch ffrindiau go iawn yn ystod cyfnodau fel hyn), neu siarad â chwnselwr, arbenigwyr, homeopath, meddyg teulu neu grwpiau cefnogaeth fel meddwl.org. Fe ddaw. Fe wneith bethe wella.
Peidiwch â bod mor galed ar eich hun (haws dweud na neud dwi’n gwybod). Ceisiwch fyw yn y presennol. Ceisiwch beidio treulio amser gyda phobl negyddol. Trïwch anghofio neu anwybyddu pobl drahaus a phobl hunanol. Trafodwch eich teimladau a’ch pryderon, nid yn unig gyda phobl eraill, ond gyda chi eich hun hefyd. Yn ôl un dywediad, ‘’siarad â fy hun yw fy hoff ran o’r dydd!’’
Dwi’n sicr ddim 100% allan o’r tywyllwch eto. Dwi dal wrthi yn ymladd yn erbyn be dwi i’n gweld fel anghyfiawnder ac amarch. Dwi hefyd yn cofleidio’n gyson, ac yna’n gwrthod, cyfuniad o ddicter, iselder, ddihunan werth, penderfyniad, ystyfnigrwydd, tristwch, hapusrwydd, gobaith, hunan barch a diolchgarwch yn barhaol. Hotsh potsh go iawn!
O, ac un darn arall o gyngor os gai, a rhywbeth sy’n sicr wedi achub fy mywyd i, mewn mwy nag un ffordd. Prynwch gi! O ddifri! Gwnewch chi ddim difaru!