My Blog

Menter newydd yn 2021!!

Shwmai! Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn a hanner, a dwi, yn un, methu ag aros gweld ei diwedd hi! Mae gen i fenter a swydd rhan amser newydd yn 2021 a dwi yn bles iawn o gyhoeddu mod i am ddechrau gweithio gyda Choleg Pen-y-bont yn Ne Cymru, fel ”entrepreneur o fewn yr adeilad”. Dwi methi aros i gynghori ac i helpu myfyrwyr ag entrepreneuriaid ifanc sydd â syniadau busnes, sydd â’r awydd i ddechrau busnes a dwi yn wir edrych ymlaen at fod yn rhan o dîm gwych mentergarwch y coleg, yn arbennig gyda Ruth Rowe, sy’n ysbrydoliaeth fawr. Mae Cymru yn le arbennig i fod yn entrepreneur, gyda chymaint o gymorth a chefnogaeth a sefydliadau a dwi yn falch iawn o gael y cyfle i roi rhywbeth yn ôl fel petai, ar ôl blynyddoedd yn y byd rhydd-gyfrannol a hunan cyflogaeth. Mwynhewch y flwyddyn newydd gymaint â phosib ac yn fwy na dim, cadwch yn ddiogel, cadwch yn iach, cadwch yn gall a gadewch i ni GYD Gweithio tuag at flwyddyn well o lawer yn 2021!

Proceed to payment

We use the Stripe payment portal which guarantees encrypted secure payments.