”Ti di gwrando ar fy mhodlediad i?”
”Pod be?
Fi’n siŵr fod nifer ohonoch chi wedi meddwl hyn rhai blynyddoedd yn ôl, do? Nes i, yn sicr. Podlediad? Be, sgwrs neu gyfweliad sain yn unig? Dim fideo? Swnio braidd yn ddiflas nagyw e?
Wel, erbyn hyn, mae podlediadau wedi dod yn boblogaidd tu hwnt, weithiau yn cael mwy o wrandawyr na rhai rhaglenni teledu, yn ddylanwadol ac yn newid ffyrdd o fwynhau’r cyfryngau ”traddodiadol”. Mewn tair blynedd yn unig, mae gwrandawyr podlediadau wedi cynyddu i 6 miliwn a hanner, neu 12% o’r boblogaeth, yn arwain at fwy a mwy o fobl nid yn unig yn gwrando ond yn dechrau podlediad.
Ydy, erbyn hyn ac yn sicr dros y cyfnod clo a’r pandemic, mae’n debyg fod gan bob Tom, Dic a Dafydd bodcast. Sgyrsiau, cyfweliadau, cwestiynu, malu am bynciau di-ri. O fewn y cyfryngau ”traddodiadol” mae ‘na ryw fath o snobyddrwydd dal yn bod, yn enwedig, am ryw reswm, gan Gymry Cymraeg, a rheini, gan amlaf, o dan 35.
”Ie, ond dyw e ddim ar y BBC neu S4C yw e, felly beth yw’r pwynt?”
”Nid rhaglen ‘go iawn’ yw podlediad!”
Ai ddim i ymateb fan hyn i’r sylwadau cul a gwirion yma ond yn hytrach, dwi am dynnu sylw at fy mhodlediad i, sef Cymeriadau Cymru. Sgwrs wythnosol gwbl naturiol, anffurfiol, weithiau’n ddoniol, diddorol, syfrdanol a chartrefol yw podlediad Cymeriadau Cymru gyda rai o enwau mwyaf cyfarwydd ag adnabyddus (er weithiau ddim mor adnabyddus â hynny) Cymru, a chyfle i ddysgu am eu gyrfaoedd a’u bywydau. Bach o ‘laff’ gyda selebs a phobl amlwg a diddorol gydag ambell i syrpreis o bryd i’w gilydd, wrth ateb y 10 cwestiwn chwim neu wrth ateb cwestiynau cwis. Pawb o Maggi Noggi i Adam Price…..a phawb yn y canol! Ac nid ”malu cachu” ydw i. Nid holi cwestiwn ac yna’n gwrthod gwrando ar yr ateb. Nid rhegu er mwyn effaith na siarad nonsens fel rhai o’r podlediadau, yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Diolch i bawb am fod ar y podlediad wythnosol yn ystod 2021. Mae cyfweld â chi wedi bod yn ‘life saver’ ac ma’r podlediad wedi ennill gwrandawyr newydd, adborth positif a thipyn o ddilyniant ar amryw o lwyfannau. Dwi’n wir yn edrych ymlaen at gyfweld â mwy o Gymeriadau Cymru yn 2022!