Teithiau Cerdded ac Ymweld

Mae ymweliad i ac o gwmpas Cymru yn haeddu cynllunio da. Rydw i’n arbenigo mewn teithiau cerdded wedi ei harwain, gyda hanes, diwylliant, bwyd a diod a cherdded gwych, yn ogystal ag arbenigo mewn teithiau ac ymweliadau unigryw i bob rhan o Gymru, gyda theithlenni diddorol, trafnidiaeth ddiogel a chyffyrddus a phrofiadau pwrpasol sydd ddim ar gael gan amlaf i ymwelwyr.

Os hoffech fynd i gerdded ar hyd llwybrau arfordirol godidog, trwy goedwigoedd hudolus ac o gwmpas trefi a phentrefi hanesyddol, ac os hoffech chi gwmni da, golygfeydd arbennig, y cyfle i ddysgu am hanes a diwylliant yr ardal a chyfle i brofi cynnyrch Cymreig, yna fe nai sicrhau i wneud eich diwrnod neu’ch ymweliad yn un arbennig iawn. Rydw I’n angerddol ynglŷn â Chymru a’i llwybrau cerdded, gan gynnwys y Llwybr Arfordirol unigryw o gwmpas Cymru, a dwi’n gynnig gymaint yn fwy na cherdded o A i B yn unig. Trwy fy nghyflogi i, fe gewch chi arweiniad personol, ymweliadau diddorol, cyfleoedd blasu, gwybodaeth hanesyddol, awyr iach a cherdded heb ei ail. O, a thipyn o hwyl hefyd!

Yn ogystal â cherdded, rydw i’n medru cynnig profiadau unigryw, o ddrws i ddrws ac o orsaf i orsaf, i unrhyw ran o Gymru sydd ar eich rhestr i’w fwynhau, gyda gwasanaeth personol ac unigryw dros Gymru gyfan, petai na fwy o amser gennych. Tau bwyta rhagorol, llety ar gyfer pob cyllideb, atyniadau, gerddi, traethau, cestyll a nifer o brofiadau pwrpasol ac unigryw na fydd yn bosib eu mwynhau fel arfer!

Cysylltwch â fi naill ai ar fy rhif ffôn neu ar e bost a gadewch i fi wybod i ble fase chi’n hoffi mynd, maint o amser sydd ganddoch a beth hoffech ei wneud a’i weld a gadewch i fi eich tywys o gwmpas Cymru brydferth!

Gŵyl gerdded Am dro yn Y Fro

Mwynhewch 10 fideo byr o 10 daith gerdded, wedi eu hyrwyddo gan Ymweld â’r Fro, fel rhan o ŵyl gerdded Am Dro yn Y Fro. Cynhyrchwyd y fideos gan Geraint Francis a chewch flas o’r tirwedd, y golygfeydd a’r cerdded ymhob un. Cymerwch olwg ar y deg a dewch i ymuno â fi ar fy nheithiau cerdded ym Mro Morgannwg, gyda siaradwyr hanesyddol, bwyd a diod, cwmni da, golygfeydd arbennig a digon o awyr iach!
Play Video
Play Video
Play Video
Play Video
Play Video
Play Video
Play Video
Play Video
Play Video
Play Video

Gadewch i ni siarad​

Cysylltwch â Chris heddiw a gadewch i ni siarad!

Ffoniwch 07779 712293 neu e bostiwch

Testimonials

10 days in May Vale Walking Festival

Enjoy 10 short videos of the 10 walking routes promoted by Visit the Vale, as part of the ’10 days in May walking festival’. The videos were produced by producer and cameraman Geraint Francis and they give a short flavour of the terrain, landscapes and scenery on each walk. Take a look and come and join me on my guided walks in the Vale of Glamorgan, with history talks, food tasting, good company, amazing views and plenty of fresh air!

Play Video
Play Video
Play Video
Play Video
Play Video
Play Video
Play Video
Play Video
Play Video
Play Video

10 days in May Vale Walking Festival

Enjoy 10 short videos of the 10 walking routes promoted by Visit the Vale, as part of the ’10 days in May walking festival’. The videos were produced by producer and cameraman Geraint Francis and they give a short flavour of the terrain, landscapes and scenery on each walk. Take a look and come and join me on my guided walks in the Vale of Glamorgan, with history talks, food tasting, good company, amazing views and plenty of fresh air!

Play Video
Play Video
Play Video
Play Video
Play Video
Play Video
Play Video
Play Video
Play Video
Play Video

Proceed to payment

We use the Stripe payment portal which guarantees encrypted secure payments.