Teithiau Cerdded ac Ymweld

Mae ymweliad i ac o gwmpas Cymru yn haeddu cynllunio da. Rydw i’n arbenigo mewn teithiau cerdded wedi ei harwain, gyda hanes, diwylliant, bwyd a diod a cherdded gwych, yn ogystal ag arbenigo mewn teithiau ac ymweliadau unigryw i bob rhan o Gymru, gyda theithlenni diddorol, trafnidiaeth ddiogel a chyffyrddus a phrofiadau pwrpasol sydd ddim ar gael gan amlaf i ymwelwyr.

Os hoffech fynd i gerdded ar hyd llwybrau arfordirol godidog, trwy goedwigoedd hudolus ac o gwmpas trefi a phentrefi hanesyddol, ac os hoffech chi gwmni da, golygfeydd arbennig, y cyfle i ddysgu am hanes a diwylliant yr ardal a chyfle i brofi cynnyrch Cymreig, yna fe nai sicrhau i wneud eich diwrnod neu’ch ymweliad yn un arbennig iawn. Rydw I’n angerddol ynglŷn â Chymru a’i llwybrau cerdded, gan gynnwys y Llwybr Arfordirol unigryw o gwmpas Cymru, a dwi’n gynnig gymaint yn fwy na cherdded o A i B yn unig. Trwy fy nghyflogi i, fe gewch chi arweiniad personol, ymweliadau diddorol, cyfleoedd blasu, gwybodaeth hanesyddol, awyr iach a cherdded heb ei ail. O, a thipyn o hwyl hefyd!

Yn ogystal â cherdded, rydw i’n medru cynnig profiadau unigryw, o ddrws i ddrws ac o orsaf i orsaf, i unrhyw ran o Gymru sydd ar eich rhestr i’w fwynhau, gyda gwasanaeth personol ac unigryw dros Gymru gyfan, petai na fwy o amser gennych. Tau bwyta rhagorol, llety ar gyfer pob cyllideb, atyniadau, gerddi, traethau, cestyll a nifer o brofiadau pwrpasol ac unigryw na fydd yn bosib eu mwynhau fel arfer!

Cysylltwch â fi naill ai ar fy rhif ffôn neu ar e bost a gadewch i fi wybod i ble fase chi’n hoffi mynd, maint o amser sydd ganddoch a beth hoffech ei wneud a’i weld a gadewch i fi eich tywys o gwmpas Cymru brydferth!

Ymunwch â Chris ’Tywydd’ Jones am Dro yn Y Fro!

Mae Bro Morgannwg yn le arbennig am gerdded. Bydd ein 5 taith gerdded, sy’n caniatáu cŵn, yn eich tywys o gwmpas y Fro ar ei orau, gyda golygfeydd arfordirol, mannau hanesyddol, ymweliadau diwylliannol, tafarndai, caffis a chyfleoedd ffotograffig gwych. Os yn byw’n lleol neu yn ymweld neu yma ar wyliau, ac â diddordeb mewn mwynhau cerdded yn y Fro, cymerwch olwg ar y fideos byr ar gyfer y pum daith, dewiswch eich hoff un ac os am drafod a threfnu dyddiad ag amser, yna cysylltwch ar e-bost neu ffôn symudol unrhyw bryd.

£25 y person yw cost pob taith gerdded, yn daliadwy ar y diwrnod, gyda lleiafswm o 4 person pob taith. Mynediad am ddim i gŵn!

Taith 1

Taith Llwybr Treftadaeth Morgannwg (Aberogwr)

8 milltir (llwybr byrrach ar gael)
4 awr
Play Video
Cymedrol gyda rhannau serth ar hyd Llwybr arfordir Cymru a llwybr treftadaeth Morgannwg. Dechrau a gorffen yng nghaffi neuadd gymunedol Aberogwr.
O DDIDDORDEB
  • Twyni Merthyr Mawr
  • Castell Ogwr
  • Pentrefi Aberogwr a Sant y Brîd
  • Canolfan Arfordir Treftadaeth
  • Castell Dwnrhefn a Gardd Furiog
  • Eglwys Sant Bridget
  • Traeth Dwnrhefn
  • Bwytai a thafarndai lleol

Taith 2

Taith yr arfordir a goleudy (Monknash)

8.5 milltir (llwybr byrrach ar gael)
4.5 awr
Play Video
Llwybrau penodol gyda rhai mannau serth yn dilyn clogwyni uchel. Dechrau a gorffen yn nhafarn y Plough and Harrow yn Monknash.
O DDIDDORDEB
  • Arfordir Treftadaeth Morgannwg
  • Castell a Chanolfan Gelfyddydau Sain Donat
  • Goleudy Trwyn Nash
  • Caffi Nash Point
  • Eglwys y Drindod Sanctaidd, Marcross
  • Eglwys Sant Donat
  • Prifysgol Ryngwladol yr Iwerydd
  • Tafarn Y Plough & Harrow

Taith 3

Taith croesau Celtaidd a’r arfordir (Llanilltud Fawr)

5.5 milltir
3 awr
Play Video
Llwybrau arfordirol, lonydd gwledig, coedwigoedd gyda rhai giatiau a chamfeydd. Dechrau a gorffen yn maes parcio gorsaf drên Llanilltud Fawr.
O DDIDDORDEB
  • Eglwys Sant Illtud a Capel Galilee
  • Y Porthdy, Abaty Tewkesbury Grange
  • Arfordir Treftadaeth Morgannwg
  • Tŷ colomennod
  • Bae Tresilian a thraeth y môr ladron
  • Neuadd y Dref Llanilltud Fawr
  • Tafarn hynafol y Swan Inn

Taith 4

Taith treftadaeth Iolo Morgannwg (Y Bontfaen)

7 milltir (llwybr byrrach ar gael)
4 awr
Play Video
Llwybrau penodol trwy gaeau a choedwigoedd ac ar hyd lonydd a phalmentydd, gyda rhai mannau serth. Dechrau a gorffen yng Ngwesty’r Bear, Y Bontfaen
O DDIDDORDEB
  • Gerddi’r Hen Neuadd
  • Yr Ardd Ffisig
  • Lleoliadau hanesyddol Iolo Morgannwg
  • Gwesty’r Bear
  • Stalling Down
  • Tafarn y Bush, Sant Hilari
  • Castell Sant Quentin

Taith 5

Taith naid yr eogiaid (Dinas Powys)

6 milltir (llwybr byrrach ar gael)
3 awr
Play Video
Llwybr hamddenol ar hyd lonydd a thrwy goedwigoedd prydferth gydag ambell ‘i fan serth. Dechrau a gorffen yn maes parcio Y Star Inn, Dinas Powys
O DDIDDORDEB
  • Coedwig Cwm George
  • Pentref hynafol Dinas Powys
  • Heol y Cawl (Lôn Broth)
  • Caer Bryniau’r Oes Haearn
  • Broc Wrinstone
  • Naid Eogiaid
  • Michelston-le-Pitt
  • Cofrestrwch

Let's talk!

Contact Chris today and see how you can get more from your visit to Wales

Call 07779 712293 or email to talk about your project.

Testimonials

Proceed to payment

We use the Stripe payment portal which guarantees encrypted secure payments.