YMUNWCH Â CHÔR. YMUNWCH Â CHÔR MEIBION PEN-Y-BONT!
Fi di canu erioed. Wrth dyfu lan yn Aberaeron, roedd cerddoriaeth i’w glywed yn barhaol yn y tŷ; naill ai Elvis, Tom Jones, Jim reeves, neu Ryan Davies a chantorion Cymraeg amrywiol. Y capel, cymanfa ganu, Yr Urdd, sioeau ysgol ac eisteddfodau. Odd mam yn chwarae’r piano ac yn annog i fi harmoneiddio i emynau Cymraeg gyda hi. O ni’n ‘’boy soprano’’ er mwyn Duw!
Beth bynnag, fe wnaeth y canu ddiflannu ar ôl i fi adael ysgol a chartref. Doedd e ddim yn rhan o’m mywyd i tra yn y coleg na naill ai wrth weithio yng Nghaerdydd. Yn hwyrach o lawer, oedden i wrth fy modd yn canu bach o karaoke a chanu o gwmpas y piano yn ystod gêm rygbi neu ryw ddigwyddiad, a hyd yn oed yn hwyrach, fel cyflwynydd tywydd S4C, fe nes i ganu a recordio gyda Gwenda Owen a Heather Jones, dwy eicon Gymreig. Nes i berfformio gyda’r ddwy mewn cwpl o wyliau ac fe glywir y recordiau hynny ar Radio Cymru yn gyson hyd heddiw! Ond heblaw hynny, dyna fe.
Nes 2022.
Wnaeth ymuno â chôr erioed apelio. Wnaeth ymuno ag un o gorau Cymraeg Caerdydd, gyda’u ‘repertoire’ glasurol a rhyw agwedd ‘’clicaidd’’, sicr ddim apelio!
Yna, un noson yn fy nhafarn leol, y Three Golden Cups ym Mro Morgannwg, roeddwn i’n arwain achlysur a pharti ffarwel y perchnogion mewn bar gorlawn. Areithiau, cyflwyniadau, cerddoriaeth a barddoniaeth hyd yn oed! Tua diwedd y noson, es i i’r tŷ bach, i, wel, neud be ma dynion yn neud yn y tŷ bach. Fyna oeddwn i, yn meindio fy musnes, ac mewn daeth y boi ma; tal a siaradus iawn (ma hwn yn swnio braidd yn amheus fi’n gwybod!). ‘’ Llais da ti gwd boi. Ti di canu mewn côr erioed?’’ Chwerthin nes i a dweud nad oedd ymuno â chôr erioed wedi apelio. ‘’Fi’n canu gyda chôr meibion Pen-y-bont. Ddyle ti ddod draw. Baritôn wyt ti fi’n tybio’’.
Yn hwyrach, ar ôl cyrraedd adref, nes i sôn wrth fy ngwraig am y sgwrs rhyfedd yn y tau bach. Ar ôl iddi orffen chwerthin, dyma be ddwedodd hi. ‘’Pam na ei di i’r ymarfer? Wedi’r cyfan, ti yn gallu canu, ma na lais da gyda ti. Cer i roi tro arni. Fydd e’n neud lles i ti’’
Gyda newidiadau a thorcalon gyrfaol, a diagnosis cancr y brostad, a hynny yn arwain at broblemau iechyd meddwl a phrinder hunan werth a hyder, ma’r blynyddoedd diwethaf, a maddeuwch i fi am yr iaith, wedi bod yn gachlyd. Felly roedd angen rhywbeth arnai, heblaw am fynd i gerdded, i godi calon, i gyfarfod â phobl eraill, a’n sicr, gyda cherddoriaeth o bob math yn parhau i fod yn rhan bwysig o’m mywyd, roedd mynd i ymarferion côr yn swnio’n dda! ‘’Nai rhoi cynnig arni,’’ feddylies. ‘’Ai weld sut beth fydd e’’
A’r ymweliad cyntaf honno, yn ymarferion côr meibion Pen-y-bont, yn neuadd Ysgol yn y dref, oedd un o’r penderfyniadau gorau dwi di neud erioed. Ma fy niolch i fy ngwraig am berswadio fi i fynd yn y lle cyntaf, ac mae’n debyg fod angen diolch i John Jones (ail denor) am gynnig y fath beth yn wreiddiol, er mai mewn tŷ bach oeddem ni! Diolch John!
Felly pam ymuno â chôr, a pham ymuno â chôr meibion Pen-y-bont? Wel mae ‘na chwyldro wedi bod yn agweddau tuag at ymuno â’r côr lleol ac mae corau meibion yn arbennig, yn draddodiad Cymreig iawn. Mae’r Cymry yn angerddol ynglŷn â chanu. ‘’Mae ‘na nifer o bethau i ddweud am Gymro’’ meddai’r beirniad Milton Shulman, ‘’ond peidiwch â bod yn ddigywilydd am ei lais’’. Côr meibion yw un o symbolau mwyaf trawiadol hunaniaeth Cymru. Mae ‘na dros 80 o gorau meibion yng Nghymru ac nid ydynt yn debygol o ddiflannu; maen nhw yma i aros, yma o hyd, chwedl Dafydd Iwan. Dechreuwyd côr meibion Pen-y-bont yn Awst 1960 ag ystyrir y côr yn un o’r gorau yn y wlad.
Er hynny, fel pob côr mae’n siŵr, mae’r pwyllgor yn ymwybodol iawn o’r aelodau yn heneiddio, yn dioddef o salwch ac yn methu mynychu’r ymarferion, ac o ganlyniad felly, sylwer ar niferoedd yn disgyn ac yn dirywio, ac yn anffodus, mae ‘na fwy nag un côr yn ddiweddar wedi gorffen yn gyfan gwbl.
Nid yw côr meibion Pen-y-bont yn agos i’r sefyllfa honno diolch byth ond i ni yn edrych yn barhaol am aelodau newydd ac aelodau ‘’ifanc’’ yn arbennig, beth bynnag yw ‘’ifanc’’ y dyddiau yma.
Felly dyma fy apêl i, ar ran y côr bendigedig yma a’r pwyllgor gwych a gweithgar, ar gyfer dynion, o bob oedran, yn ardaloedd Pen-y-bont, Bro Morgannwg a’r cyffiniau, i ddod draw i’m hymarferion wythnosol. Nid oes unrhyw ddisgwyliad. Fydd na ddim gofyn i chi gael clyweliad na chanu solo. Gallwch eistedd yn gwrando am y tro cyntaf os hoffwch chi. Mae’r côr yn canu popeth o Myfanwy i Elvis ac o emynau Cymraeg i ganeuon West End, ac yng Nghymraeg a Saesneg. Bydd y croeso yn gynnes. Bydd y gefnogaeth a’r cymorth heb ei hail (gyda’r Gymraeg, geirfa, y gerddoriaeth, iwnifform a chyfleodd niferus i ganu mewn ystod eang o achlysuron). Mae safon y tîm cerddorol yn arbennig. Ac wrth i’r côr ddechrau canu, allai eich sicrhau y gwnewch chi deimlo rhyw iâs yn eich corff, yn union fel digwyddodd i mi y tro cyntaf.
Mae ‘na ymchwil wedi profi fod canu, a chanu mewn côr yn arbennig, yn gwneud i un deimlo’n dda, wrth i’r endorffins rhyddhau, yn arwain at gylchrediad gwell. Gall canu gryfhau’r sustem imiwnedd, yn helpu ymladd yn erbyn salwch. Mae canu yn lleihau pwysau, yn cryfhau hunan hyder a hunan werth, yn helpu gyda cholled ac unigrwydd. Yn fwy na dim efallai, mae canu, naill ai mewn ymarferion, mewn priodasau, mewn cyngerdd mewn neuadd fawr, tafarn, eglwys neu mewn gŵyl, yn ardderchog i’r meddwl, y corff a’r enaid. Coeliwch chi fi, mae’r ymchwil a’r dystiolaeth yma yn wir i gyd, ac fel nes i sôn ar y cychwyn, un o’r pethau gorau, mwyaf buddiol dwi erioed di wneud, yw ymuno â’r grŵp o ddynion arbennig yma. Ddyliwn i wedi ymuno yn gynt o lawer!
Felly chi ddynion, fel gwnaeth fy ngwraig grybwyll wrtha i, rhowch gynnig arni! Mae’r côr yn ymarfer pob nos Iau rhwng 7.30 a 9.30 yn neuadd ysgol Oldcastle ym Mhen-y-bont (CF31 3ED); mae ‘na nifer fawr o gyngherddau ag achlysuron ar y gweill yn barod ar gyfer eleni a 2024, ac fe hoffwn eich gwahodd i ddod draw a gweld dros eich hun. Wnewch chi ddim difaru!
Cyfeiriad e bost: contact@bridgendmalechoir.co.uk