Amdana i

Ar ôl treulio fy mhlentyndod yng Ngorllewin Cymru ac ar ôl gadael y brifysgol, dechreuais fy ngyrfa fel person gwneud te a chynorthwyydd cyffredinol, a hynny wrth hyfforddi fel gwr camera i gwmni teledu a chorfforaethol annibynnol. Dwi’n lwcus tu hwnt mod i wedi gweithio gyda chymaint o bobl arbennig o bob maes, a, fel gwr camera a chyfarwyddwr, wedi teithio’r byd. Yn 1991, wrth ffilmio’r tîm bobsleigh Prydeinig o gwmpas y byd, fe nes i ddechrau gweithio ar yr ochr arall i’r camera, ac fe rydw i wedi bod yn cyflwyno, yn y Gymraeg a’r Saesneg, ers bron i ddeng mlynedd ar hugain, ar deledu, radio, mewn digwyddiadau corfforaethol a sector cyhoeddus (gan gynnwys gwaith rheolaidd i Lywodraeth Cymru). Datblygiad diweddar i fy ngwaith yw arwain, cyflwyno a hwyluso digwyddiadau rhithiol. 

Mae bywyd wedi newid gryn dipyn yn gyflym iawn i ni gyd a dwi’n blês iawn fod i wedi llwyddo i addasu fy ngwasanaethau tuag at y byd rhithiol a digidol…ac wrth gwrs, dwi’n 100% ddwyieithog, sy’n wastad yn ddefnyddiol! ‘Ewch i Gwaith’, sylwch ar y tystebau a meddyliwch am beth alla i ddod i’ch digwyddiad, cynhadledd, gweithdy, noson gymdeithasol a seremoni wobrwyo chi.

Mae gen i fysedd yn nifer o bethau, ac un ohonynt yw dylunio cynnyrch, yn seiliedig ar y tywydd, sy ‘di bod mor boblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf ac sy’n gwerthu o gwmpas y byd! Ewch i ‘ Siop’ i weld ac i archebu’r ystod o anrhegion unigryw sydd ar gael, wedi eu cynllunio gen i, a’u gwneud yng Nghymru.

Testimonials

Proceed to payment

We use the Stripe payment portal which guarantees encrypted secure payments.