Glossophobia ywr ofn o siarad cyhoeddus…ond mae ‘na ffordd iw drechu!!!

Siaradwch yn hyderus. Cyfathrebwch yn effeithiol. Codwch eich llais.

Naill ai siarad mewn cyfarfod, ar lwyfan, neu rannu syniadau gyda grŵp bach, neu os ydych yn poenu ynglŷn â chyfweliad teledu neu radio, mae siarad yn gyhoeddus yn sgil pwysig, o bosib yn trawsnewid eich bywyd personol a phroffesiynol.

Rydw in cynnig cwrs siarad cyhoeddus cynhwysfawr, sydd wedi ei gynllunio ich helpu chi i ddatgloi eich potensial ac i drosglwyddo eich neges gydag eglurdeb, hyder ag effaith. Fe nai eich helpu i godi eich llais, i wynebu eich nerfau ach ofnau gyda gonestrwydd, cyngor realistig, strategaethau a chymorth, ymarferion a thechnegau defnyddiol. Cwrs rhyngweithiol syn atgyfnerthu hyder mewn ffordd hwylog a hwylus i gicio glossophobia allan drwyr ffenestr!

Dyrchafwch eich llais gyda fy nghwrs siarad cyhoeddus!

Beth wnewch chi ddysgu?

Gorchfygu ofn ar lwyfan ac o flaen camera
Adeiladwch eich hyder a distewch eich nerfau gydag ymarferion realistig ac effeithiol

Adeiladu negeseuon pwerus
Dysgwch sut i strwythuro eich areithiau ach cyflwyniadau ar gyfer eglurdeb a thrawiad eithaf

Dewch i adnabod eich cynulleidfa
Dysgwch sut i gysylltu gydar gynulleidfa trwy ddefnyddio hiwmor, straeon ac iaith

Gwellwch eich cyflwyniad
Dysgwch sut i feistroli eich llais, symudiadau dwylo a chorff a theclynnau gweledol i adael argraff fythgofiadwy

Cwrs i bwy?

Siaradwyr cyhoeddus newydd
Perffaith ar gyfer y sawl syn camu mewn ir byd siarad cyhoeddus am y tro cyntaf. Dysgwch yr hanfodion o baratoi, edrychiad, ac ennyn hyder

Sgiliau cyfathrebu datblygedig
Ar gyfer pobl busnes a phroffesiynol syn gobeithio gwella eu sgiliau cyflwyno

Siarad cyhoeddus corfforaethol
Wedi ei ffocysu ar gyflwyno areithiau a chyflwyniadau pwysig corfforaethol a rheoli cyfathrebu mewn byd busnes

Gweithdai arbenigol
Yn cynnwys hyfforddiant ar gyfer cyflwyniadau rhithiol, cyfweliadau ar y cyfryngau a chyflwyniadau arbenigol

Y cyfan gyda gweithdai rhyngweithiol, sesiynau ymarfer ac adborth personol ich helpu chi i fagu hyder pob cam or ffordd

Pam fi?

Dros 35 blynedd yn gweithio fel cyflwynydd ym myd cyfryngau a chorfforaethol, gyda phrofiad helaeth mewn meysydd amrywiol. Teledu, radio, cyfweliadau, cyflwyniadau corfforaethol, nosweithiau gwobrau, siarad cyhoeddus ysbrydoledig a phopeth rhwng cynnal noson gwis i gyflwyniadau yn arddull TED Talks.

Rydw in gyfrannydd a chyflwynydd cyson ar deledu a radio ac wedi bod yn arwain, cynnal, lleisio a chyflwyno am flynyddoedd lawer, yn y Gymraeg, Saesneg ac yn ddwyieithog, yn ogystal â hyfforddu pobl busnes, myfyrwyr a sefydliadau amrywiol

Testimonials

Cymerwch y cam cyntaf tuag at ddod yn siaradwr hyderus ac effeithiol a threchwch eich ofnau, datglowch gyfleoedd a sgiliau newydd!

Cysylltwch â fi ar me@chrisjones.cymru neu galwch fi ar 07779 712293 ar gyfer mwy o wybodaeth

Gwnewch y cam cyntaf a gorchfygwch eich glossophobia!

Proceed to payment

We use the Stripe payment portal which guarantees encrypted secure payments.