Ffurflen Gofrestru

Cerdded

Dewiswch pa deithiau cerdded y mae gennych ddiddordeb ynddynt

Pwysig

  • Cymerir lluniau gan yr arweinydd ar hyd y daith ar gyfer hyrwyddo a marchnata. Os na hoffech fod yn rhan o’r lluniau, a wnewch chi roi gwybod i mi.

  • Plîs byddwch yn hyderus y gallwch gwblhau’r daith gerdded yma, yn gorfforol. T

  • Mae pawb sy’n cymeryd rhan yn yr achlysur hwn yn gwneud felly trwy eu gwirfodd eu hun.

  • Fe all cyfeiriad y daith gerdded newid a hynny o dan ddoethineb a rheolaeth yr arweinydd

  • Atgoffir pawb bod angen paratoi ar gyfer unrhyw achlysur yn yr awyr agored. Mae hyn yn cynnwys defnyddio’r esgidiau a dillad cywir ag addas, bwydydd a dwr, eli haul, dillad Cynnes, het, menig ayb. Ni fydd y rhain yn rhan o gyfrifoldeb yr arweinydd. O dro i dro, fe ddawn ni ar draws camfeydd, llwybrau anwastad, darnau serth, mwd llithrig……ac efallai, defaid!

  • Disgwylir i bawb ddilyn cyngor a chyfarwyddiadau’r arweinydd bob tro.

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn parcio yn ddiogel a dilynwch gôd cefn gwlad a pheidiwch â gadael na thaflu unrhyw sbwriel wrth gerdded.

  • Caniateir cwn ar y daith ond nodwch fod ‘na gamfeydd ar y llwybr sydd o bosib yn anaddas. Disgwylir i gwn fod ar dennyn ac o dan reolaeth drwy’r amser.

  • Pan ofynnir i chi ei wneud, a wnewch chi gerdded mewn rhes sengl ac ymddygwch yn gall ac yn gyfrifol.

  • Nid yw’r trefnydd yn cymeryd unrhyw gyfrifoldeb ar gyfer unrhyw sy’n mynychu’r digwyddiad. Nid yw’r trefnydd yn cymeryd unrhyw gyfrifoldeb ar gyfer unrhyw ddamwain, niwed na cholled o ganlyniad i unrhyw beth yn gysylltiedig â theithio i’r digwyddiad, boed bynnag y rheswm.

  • Wrth ymuno â’r daith gerdded hon, rydych yn nodi eich bod yn derbyn y termau yma ac yn derbyn na chymerir unrhyw gyfrifoldeb nag atebolrwydd cyfreithlon o ganlyniad i ddamwain neu niwed, boed bynnag y rheswm.

  • Fe ddarperir deunydd cymorth cyntaf syml. Oes os ganddoch unrhyw gyflwr meddygol a gall effeithio ar eich gallu i gerdded, a wnewch chi ddweud wrth yr arweinydd cyn dechrau cerdded os gwelwch yn dda.

  • Fe all yr arweinydd eich gwrthod i fod yn rhan o’r daith gerdded hon petai na phryderon ynglŷn â’ch offer cerdded, esgidiau ayb a’u haddasrwydd ar gyfer y tirwedd a thywydd gwael.

  • Os fydd y tywydd yn rhy arw neu’n beryglus ar y diwrnod, mae gan yr arweinydd yr hawl i ganslo’r digwyddiad ac ail drefnu dyddiad arall.

Proceed to payment

We use the Stripe payment portal which guarantees encrypted secure payments.