My Blog

Mewn undod mae nerth!

Sut mae pawb? Ydy pawb yn addasu ac yn ymdopi â’r byd newydd rhithiol yma? Mae fy ngwaith i yn sicr wedi newid yn sylweddol dros y misoedd diwethaf, gyda chynadleddau, gwobrau, cyfarfodydd a digwyddiadau cymdeithasol yn gyfan gwbl ar lein ac yn rhithiol! Dwi’n ymwybodol Iawn fod hyn yn medru bod yn anodd i rai a dyna pam mae hi mor bwysig i beidio â phoeni’n ormodol am eich cwota Zoom dyddiol. Mae hi mor bwysig i drefnu eich diwrnod fel petai, i godi o’r cyfrifiadur nawr ac yn y man, i gymeryd saib, i fwynhau bach o awyr iach, i fwyta’n iach, i ddarllen y papur am ddeg munud neu i jyst…ymlacio! Haws dweud na gwneud dwi’n gwybod ond gadewch i ni gyd drio edrych ar ôl ein gilydd. Mewn undod mae nerth.

Proceed to payment

We use the Stripe payment portal which guarantees encrypted secure payments.