Un o’r elfennau mwyaf boddhaol o fy ngwaith yw cyfarfod a chyfweld â phobl amrywiol o nifer o feysydd; pobl ddiddorol, ysbrydoledig a dylanwadol. Mae fy mhodlediadau, ‘The influencers ‘yn Saesneg a ‘ Cymeriadau Cymru’ yn Gymraeg ar gael ar nifer o lwyfannau podlediadau megis Spotify (linc isod), Apple, Google, Breaker a Anchor. Mae’r ddau wedi dod yn hynod o boblogaidd o fewn cyfnod byr, a thra mod i methu cyfarfod â fy mhobl gwadd wyneb yn wyneb ar hyn o bryd wrth gwrs, mae cael cyfweld â phobl mor amrywiol â chomediwyr, pobl busnes, gwleidyddion, actorion a dylanwadwyr dros Zoom wedi bod yn anhygoel, ac yn fy nghaniatáu i wahodd pobl o bedwar ban byd, i gymeryd rhan y 2 podlediad. Ewch ati i ddod o hyd i’r ddau. Rhowch wybod i fi beth chi’n feddwl!