Trumpnado – Ffenomenon unigryw yn yr UD!
‘’Sut nei di ddathlu dy 60eg Chris?’’
‘’Dwi’n mynd i gwrso tornados’’
‘’Eh? Be?’’
Ie, dwi’n gwybod. Ffordd wahanol iawn o ddathlu pen-blwydd pwysig, ond dyna be nes i yn ystod Ebrill a Mai. Dim parti efo balŵns a chacen i fi. Dim diddordeb! Yn hytrach, gwireddu breuddwyd, mynd ar antur fythgofiadwy, mynd yn syth i frig y ‘’bucket list’’ a mynd i’r UD i gwrso’r ffenomena meterolegol, i ddysgu amdanynt ac i brofi a thystio eu pŵer, maint, ynni ac effaith. 5 talaith, bron i 4000 o filltiroedd, 8 diwrnod o gwrso stormydd, mellt a tharanau a thornados gyda chwmni proffesiynol, Tempest Tours, a 15 o bobl o’r UD, Gweriniaeth Siec, Awstralia a Phrydain.
Roedd bod yno yn fraint unigryw. Roedd gweld y celloedd stormus, yr awyr ddramatig, y cenllys maint peli ping-pong, y mellt anhygoel, a dau dornado, yn troelli o’r cymylau i’r ddaear, yn brofiad ac yn deimlad emosiynol a gostyngedig ac un nai FYTH anghofio!
Braint hefyd oedd cael gweld rhan o’r byd sy’n gyfarwydd i ni gyd trwy ffilmiau a theledu. Texas, Oklahoma, Nebraska, Kansas a New Mexico. Dod ar draws enwau cyfarwydd fel Amarillo, El Paso, Waco, Wichita a Tulsa. A darganfod pentrefi newydd a gwbl unigryw megis Turkey, Bird City, Colon, a Wymore, sef, yn ôl yr arwydd, ‘’Canolfan Cymreig Nebraska’’, er na welais i ru’n ddraig goch neu air Cymraeg.
Wrth dreulio oriau yn y fan arbennig, gyda chasgliad o ‘’gwrswyr tornado’’, roedd hi’n anochel fysai’r sgwrs yn troi tuag at wleidyddiaeth, at ganfyddiad America i’r byd mawr ac wrth gwrs, at Donald Trump. Fe wnes i ymdrech fawr i beidio codi’r pwnc gyda’r Americanwyr, gan fod i’n ymwybodol iawn ‘u bod nhw yn medru bod yn sensitif am eu llywydd, yn flin, yn embarysd hyd yn oed. Yn embarysd iawn!
Wrth yrru trwy Texas ac Oklahoma a gweld baneru Trump, a chowbois yn gwisgo hetiau ‘’MAGA’’, fe nes i, a sawl un sylweddoli ein bod ni yng nghrombil y gweriniaethwyr. Yng nghalon athrawiaeth Trump a’i debyg. Talaethau ‘coch’ go iawn. Fe nes i hefyd sylwi bod pawb yn glên iawn, yn foesgar, ac â diddordeb go iawn yn fy hanes, fy acen, fy nghartref ac am fy rhesymau am ddod i’r UD. Felly yn hynny o beth, roedd hi’n bleser llwyr fod yno.
Ond wrth gwrs, nid pawb sy’n cytuno gyda Donald. Roedd rhai o fy nghyd-deithwyr yn Americanwyr o Galifornia, Efrog Newydd, Wisconsin ac o New Hampshire. Talaethau ‘glas’ go iawn ac yn gwbl wrthwynebol tuag at eu harweinydd a’u llywodraeth, ac erbyn hyn, eu lle yn y byd. Hawdd iawn felly oedd dechrau cymharu Donald Trump â thornado. Diddorol oedd gwrando a chwerthin a synnu ar y tebygrwydd rhwng y dyn mwyaf pwerus yn y byd, a’r ffenomenon naturiol fwyaf pwerus. Swnio’n rhyfedd? Wel, petai wleidyddiaeth Americanaidd yn rhagolwg tywydd, nid cawod fach neu wynt ysgafn fysai Donald Trump. Nefyr in Iwrop! Tornado F5, y categori cryfaf a mwyaf dinistriol, fysai Trump, yn rhuo ac yn rhuthro trwy’r wlad, yn troi confensiynau gwleidyddol arferol ben eu gwaered, fel bythynnod ac adeiladau bregus Kansas! Yn gorchymyn eich sylw, yn union fel tornado.
Ganwyd tornados o ganlyniad i ‘’storm berffaith’’, yn gyfuniad o ansefydlogrwydd, ynni a thensiwn atmosfferig. Swnio’n gyfarwydd? Ers 2015, pan ymddangosodd Donald Trump, neu ‘’Trumpnado’’ , ar y byd gwleidyddol, mae’r dyn wedi bod yn siarad yn gyflym, yn troi’n gyflymach ac yn gwahanu unigolion, teuluoedd, ffrindiau, dinasoedd a thalaethau.
Mae gan y ddau, tornados a Trump, dalent am rwygo. Tornados yn rhwygo’r tirwedd a chymunedau a bywydau. Trump yn rhwygo’r sefydliadau, a’r traddodiadau a’r wlad. Yn dibynnu ar eich safbwynt gwleidyddol, fe wnewch chi weld y rhwyg yma naill fel cwtogi a thocio swnllyd ac anochel, neu fel dymchwel peryglus a thrist.
Mae ‘na wahaniaethau hefyd wrth gwrs. Y gwahaniaeth mwyaf efallai yw’r ffaith fod tornados yn ymddangos ac yn diflannu’n weddol gyflym, fel gwnaeth y ddau i mi eu gweld, tra ar fy antur. Mae Trump ar y llaw arall, yn debygol o fod gyda ni, y byd a’r tirwedd wleidyddol, am flynyddoedd. Fel nes i ddweud droeon wrth gyflwyno’r tywydd am naw mlynedd ar hugain, ‘’gwasgedd isel cryf yn ymlusgo’n araf ar draws y wlad’’
Tua diwedd fy nhaith yn yr UD, ar ôl profiad bythgofiadwy arall o weld storm, fe ddaeth un o’r dynion ataf i ofyn am fy marn i am ei arlywydd. Am farn Prydain ac Ewrop. Gwallgofddyn neu chwyldroadwr? Yn chwa o awyr iach neu yn embaras llwyr? Diolch fyth, fe ddaeth y glaw yn drwm ac yn gynnes a braf oedd cael dianc a pheidio ateb ei gwestiwn!
Profiad anhygoel oedd cwrso tornados mewn rhan o’r byd sy’n gymhleth, yn ddramatig, yn ysbrydoledig, yn bositif ac yn negyddol. Mae ‘na broblemau enfawr yna wrth gwrs a rhwygiadau peryglus a thrist… ond peidiwch â rhoi’r Americanwyr i gyd yn yr un cwch. Mae ‘na fobl bendigedig ymhobman, be bynnag yw lliw eu gwleidyddiaeth. Hyd yn oed yn Texas!
***TEMPEST TOURS oedd enw’r cwmni cwrso tornados proffesiynol.
www.tempesttours.com